Bydd Dydd Miwsig Cymru 2022 yn talu teyrnged i’r lleoliadau miwsig annibynnol – sy’n aml yn ganolog i gymunedau Cymraeg – sydd wedi bod yn gartref i ddegawdau o gigs Cymraeg ac ‘atgofion miwsig’.
I ddathlu Dydd Miwsig Cymru, mae’r trefnwyr yn gofyn i ffans miwsig rannu eu hatgofion bythgofiadwy o gigs Cymraeg mewn lleoliadau hen a newydd: cwrdd â phartner, gwneud ffrind bore oes, neu gig a sbardunodd rywun i ddysgu Cymraeg.
Gall ffans miwsig rannu eu hatgof ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #AtgofionMiwsig
Welsh Language Music Day celebrates all forms of Welsh Language music. Whether you’re into indie, rock, punk, funk, folk, electronica, hip hop or anything else, there’s incredible music being made in the Welsh language for you to discover.
But you don’t have to wait until Welsh Language Music Day to share your love for Welsh language music or to find your favourite new tune, just follow @Miwsig or search #Miwsig.