Gall Gofalwyr Di-dâl a'r Sawl sy'n Derbyn Gofal hawlio Tocyn Theatr o'u dewis AM DDIM rhwng Mai 2023 a Mawrth 2024
Dilynwch y broses i hawlio tocyn sioe theatr am ddim:
- Cynghorir Gofalwyr a'r Sawl sy'n Derbyn Gofal i gysylltu â'r swyddfa docynnau i ofyn am eu tocynnau am ddim, naill ai drwy fynd i unrhyw un o'n swyddfeydd tocynnau (Y Ffwrnes neu'r Lyric), ar y ffôn (0345 2263510), neu drwy e-bost ([email protected]).
- Bydd angen i Ofalwyr ddangos prawf eu bod yn Ofalwyr ar adeg archebu (naill ai drwy ddod â'ch Cerdyn Adnabod Gofalwyr i'r swyddfa docynnau neu drwy anfon e-bost atom gyda llun o'r garden).
- Un tocyn am ddim ar gael i bob Gofalwr a'r Sawl sy'n Derbyn Gofal
- Wedyn bydd ein swyddfa docynnau yn rhoi eich tocyn(nau) am ddim i chi ar gyfer y sioe rydych wedi'i dewis.
Mae cronfa gyfyngedig i gefnogi'r fenter hon felly pan fydd y gronfa wedi'i gwario ni fydd mwy o docynnau am ddim ar gael. (Y cyntaf i'r felin fydd hi)
Ariannwyd gan Lywodraeth Cymru