Mae Llesiant Delta Wellbeing, Cwmni Masnachu Awdurdod Lleol sy'n eiddo i Gyngor Sir Caerfyrddin, yn darparu technoleg gynorthwyol a monitro rhagweithiol i gefnogi pobl hŷn a phobl agored i niwed i fyw'n annibynnol gartref am gyfnod hwy.
Ers ei sefydlu yn 2018, mae wedi ehangu ei wasanaethau i ddarparu ystod o atebion Gofal trwy Gymorth Technoleg yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol. Mae'n gweithio'n agos gyda phartneriaid iechyd a gofal cymdeithasol lleol a chenedlaethol i ddarparu un pwynt mynediad ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin, ac yn darparu gwasanaethau arloesol i gefnogi cleifion sy'n gadael lleoliadau acíwt yn ogystal ag yn y gymuned.
Mae Delta i Chi yn rhoi tawelwch meddwl i chi gyda larwm personol a monitro ddydd a nos felly mae help yno bob amser pan fydd ei angen arnoch. Os oes rhywbeth yn mynd o'i le, pwyswch y botwm a bydd ein tîm yn ateb eich galwad. Mewn ardaloedd penodol, gallwn hefyd anfon ymatebwyr hyfforddedig i'ch cartref i helpu yn bersonol.
Dewiswch eich cynllun:
Delta yn y Cartref – help syml yn y cartref
Delta Unrhyw Le - help gartref neu allan ar hyd y lle
Ychwanegion dewisol:
Delta Sgwrsio – galwadau rheolaidd
Delta ar ei Ffordd – cymorth personol mewn argyfwng
Mae Llesiant Delta Wellbeing, Cwmni Masnachu Awdurdod Lleol sy'n eiddo i Gyngor Sir Caerfyrddin, yn darparu technoleg gynorthwyol a monitro rhagweithiol i gefnogi pobl hŷn a phobl agored i niwed i fyw'n annibynnol gartref am gyfnod hwy.
Ers ei sefydlu yn 2018, mae wedi ehangu ei wasanaethau i ddarparu ystod o atebion Gofal trwy Gymorth Technoleg yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol. Mae'n gweithio'n agos gyda phartneriaid iechyd a gofal cymdeithasol lleol a chenedlaethol i ddarparu un...
Badges
This badge is given to organisations who communicate in Welsh.
Email us evidence that someone in the organisation can communicate in Welsh.
Written statement or telephone call from the Welsh speakers.